Darperir yr arian grant gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Ôl-osod er mwy Optimeiddio (ORP).
Pa welliannau y gallaf eu disgwyl?
Gall y cynllun ORP ariannu inswleiddio, gwelliannau gwresogi fel Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer, Gwresogyddion Storio Cadw Gwres Uchel modern, Paneli Solar yn ogystal â mesurau mwy arloesol yr ydym yn awyddus i’w profi.
Beth am addurno?
Nid yw’r rhaglen yn talu unrhyw gostau addurno ac ni fydd unrhyw addurnio sydd ei angen o ganlyniad i unrhyw waith a wneir yn cael ei dalu gan y rhaglen.
Pa mor hir mae'r broses yn ei gymryd?
Nawr bod y rhaglen ar waith, dylai’r broses o dderbyn ceisiadau hyd at gwblhau’r gwaith ddim cymryd mwy na chwe wythnos – yn ddibynnol ar y tywydd yn achos insiwleiddio waliau solet.
Beth sy'n digwydd ar ôl i mi gael asesiad?
Unwaith y byddwch wedi cael Asesiad Ôl-osod, bydd Cyd Innovation (y gosodwyr) yn cynnal Arolwg Technegol i fesur a chostio’r gwaith. Yn amodol ar gael eich cymeradwyo gan Grŵp Cynefin byddwch wedyn yn derbyn llythyr yn eich hysbysu o’r dyddiad gosod arfaethedig.
A allaf gael paneli ffotofoltäig solar (paneli PV)?
Mae’r cyllid yn caniatáu ar gyfer paneli solar ar eiddo addas. Bydd hyn yn seiliedig ar gyfeiriadedd a maint y to. Rhoddir ystyriaeth hefyd i a yw’r to wedi’i gysgodi.
Pwy sy'n rhedeg y prosiect ac yn gwneud y gosodiadau?
Mae dau gwmni o Sir y Fflint yn cyflwyno’r prosiect ar gyfer Grŵp Cynefin. Cyd Innovation (Treffynnon) yw’r Rheolwyr Prosiect ac maent yn gwneud agweddau technegol a chydymffurfiaeth y prosiect. Roedd Wall-Lag (Yr Wyddgrug) yn llwyddiannus mewn proses dendro gystadleuol a byddant yn rheoli’r gwaith gosod.
Lle gallaf gael gwybod mwy?
Am ba hyd y bydd y cynllun ar gael?
Gallwch gael gwybod mwy drwy ffonio Cyd Innovation ar 01352 748876.
Mae’r cynllun yn rhedeg trwy gydol 2023 ond mae’r cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.
Sut ydw i'n cwyno?
Cysylltwch â Cyd Innovation (Ffôn 01352 748876; E-bost info@cydinnovation.com; Cyfryngau Cymdeithasol https://www.facebook.com/cydinnovation) a bydd eu Swyddog Cyswllt Preswylwyr (RLO) yn trefnu apwyntiad i drafod y materion wyneb yn wyneb ar adeg sy’n gyfleus i chi. Bydd yr RLO yn casglu rhagor o fanylion ac yn dod i ddeall y sefyllfa o’ch persbectif chi. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu’n fewnol er mwyn gweithredu ar unwaith fel y gellir datrys y mater hyd nes y byddwch yn gwbl fodlon. Bydd yr RLO yn gohebu’n barhaus â chi er mwyn eich hysbysu am y cynnydd hyd nes eich bod yn gwbl fodlon.