Canllawiau Gosod Ôl-osod Grŵp Cynefin

Mynediad

Mae angen mynediad clir a diogel i’r ardaloedd gwaith drwy gydol cyfnod y gwaith, rhwng 8am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

Os oes gennych unrhyw broblemau wrth ddarparu mynediad rhwng yr amseroedd hyn am unrhyw reswm, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.

Allweddi

Rydym yn argymell eich bod yn bresennol yn ystod y gwaith ar eich cartref ond rydym yn deall nad yw hyn bob amser yn bosib gan y gallech fod yn gweithio’n llawn amser neu efallai fod gennych apwyntiad meddygol. Am y rheswm hwn, rydym yn cynnig gwasanaeth dal allweddi. Mae angen i chi roi gwybod i yswirwyr eich cartref fod gennym set o allweddi i’ch eiddo.

Ni allwn gynnig y gwasanaeth dal allweddi i chi oni bai eich bod wedi gwneud hynny.

Paent a Phlastr

Osgowch fynd yn agos neu gyffwrdd ag unrhyw arwynebau gorffenedig er mwyn osgoi difrod i’ch dillad a’r gwaith sydd wedi’i wneud.

Iechyd, Diogelwch a Diogeledd

  • Cadwch fannau gwaith yn rhydd o fwg sigaréts.
  • Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw broblemau iechyd y gall y gwaith effeithio arnynt.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut mae ein bathodynnau adnabod yn edrych a gofynnwch bob amser i’w gweld.
  • Cyn i’r gwaith ddechrau, clowch unrhyw bethau gwerthfawr personol o’r golwg, byddwn yn trin unrhyw honiadau o ddwyn o ddifrif a byddwn bob amser yn hysbysu’r heddlu ac yn gweithio’n agos gyda nhw.
  • Cymerwch ofal o amgylch offer a deunyddiau a pheidiwch byth â chyffwrdd ag unrhyw beth (bydd yr holl ddeunyddiau ac offer yn cael eu cadw ar ddiwedd pob dydd).

Trydan, dŵr a nwy

  • Gwrandewch bob amser ar y cyfarwyddiadau a roddir i chi gan y trydanwr/peiriannydd sy’n gweithio yn eich cartref.
  • Peidiwch â throi gwasanaethau yn ôl ymlaen, byddwn wedi eu diffodd am reswm a byddwn yn eu troi yn ôl ymlaen pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.
  • Efallai y bydd socedi a switshis yn cael eu gadael yn rhydd o waliau fel y gall arwynebau sychu, bydd y trydanwr/peiriannydd yn dweud wrthych beth y gellir ei ddefnyddio a bydd hefyd yn sicrhau bod gennych bŵer ar gael ar ddiwedd y dydd.

Plant

  • Cadwch blant i ffwrdd o offer ac ardaloedd gwaith.
  • Gwnewch yn siŵr nad ydyn nhw’n dringo ar sgaffaldau.
  • Symudwch eu teganau i ffwrdd o’r ardal gwaith.
  • Peidiwch byth â gadael eich plant heb oruchwyliaeth yn eich cartref tra bo’r gwaith yn cael ei wneud.

Anifeiliaid anwes

  • Cadwch anifeiliaid anwes i ffwrdd o’r ardal gwaith yn ddelfrydol mewn rhan ddiogel o’r ardd neu ystafell ar wahân.
  • Rhowch wybod i ni os yw eich anifeiliaid anwes yn betrus o amgylch dieithriaid neu ymwelwyr.

Galwyr Di-groeso

Os oes amheuaeth, cadwch nhw allan!

Rydym wedi ysgrifennu atoch o’r blaen ac yn y llythyr hwn fe’ch cyflwynwyd i’n contractwyr, Cyd Innovation Ltd a Wall-Lag Ltd. Yna byddant mewn cysylltiad i drefnu apwyntiad i arolygu’ch eiddo. Cyd Innovation sy’n rheoli’r prosiect a Wall Lag yw’r gosodwyr.

Bydd gan holl staff a chontractwyr Grŵp Cynefin fathodynnau adnabod gyda lluniau swyddogol. Os oes gennych unrhyw amheuaeth am y bobl ar garreg eich drws, mae croeso i chi gysylltu â thîm y prosiect yn Cyd Innovation 01352 748876.

© Copyright 2021, Cyd Innovation Ltd 

Let's Talk

Fill out your details below to request a complimentary call to discuss your challenges & goals.

Your information will never be shared. Review our Privacy Policy here